Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth / Minutes Cross Party Autism Group

 Medi 10 September 2014 Prifysgol Bangor University 10:30-12:30

 

 

1 WELCOME / CROESO

Croesawodd Mark Isherwood, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth, bawb i'r cyfarfod yng ngogledd Cymru. Roedd Alun Ffred Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod hefyd.

 

2 PRESENTATIONS / CYFLWYNIADAU

2.1 Dywedodd Delyth Lloyd-Williams, fod ganddi ferch 19 oed sydd ag ASD, a soniodd am brofiadau a ‘alluogodd’ ac a ‘analluogodd’ ei merch ar ei thaith i’r coleg.  Disgrifiodd Delyth ddigwyddiadau amrywiol a alluogodd ei merch i lwyddo, o’r datblygiadau bach i’r gofal rhagorol a gafodd. Soniodd Delyth hefyd am ddigwyddiadau eraill pan gafodd ei merch ei ‘hanalluogi’ gan y rheini nad oeddent yn deall sut fath o gymorth roedd ei angen arni. Ar ôl ymweld ag amrywiol golegau, gofyn am gymorth cynghorwyr, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Seneddol ac, yn y pen draw, ar ôl gwrthod caniatáu i neb ‘annalluogi’ ei merch, dangosodd Delyth luniau ohoni’n mwynhau ei llwyddiant parhaus yn y coleg. 

 

2.2 Cafwyd braslun gan Dr. Ceri Christian-Jones, swyddog ymchwil ar gyfer astudiaeth seiliedig ar y teulu ar Rywioldeb, Awtistiaeth a Phobl Ifanc, o'i gwaith ymchwil  i'r maes a chyflwynodd ei darganfyddiadau cyntaf. Siaradodd Ceri am bwysigrwydd cydnabod hawliau pobl sydd ag awtistiaeth i greu perthynas agos a chreu cyfleoedd i bobl ag awtistiaeth gael gwybodaeth. Roedd y darganfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod rhieni'n cydnabod bod angen ymdrin â materion hyn ac y dylai ysgolion gynnig addysg rhyw drwy ei theilwra i anghenion y disgyblion.

 

2.3 Mae Rod Morris newydd gwblhau ei radd Meistr mewn Awstistiaeth, a thrafododd natur ei waith academaidd yn y maes, gan ddweud mai'r cyfan y gall asesiadau ei wneud yw adnabod symptomau awtistiaeth, yn hytrach na rhoi diagnosis o'r hyn sydd wrth wraidd y cyflwr. Gofynnodd Rod pam mae gwaith ymchwil ac asesu'n cael eu seilio ar ganfyddiadau 'pobl broffesiynol nwironodweddiadol' yn hytrach 'mynegiant pobl awtistig o'u prosesau'. Aeth Rod ati i gyflwyno'r syniad bod asesu ar sail  'model diffyg' yn annheg gan awgrymu mai dim ond pan gaiff ei gamddeall y caiff y cyflwr ei ystyried fel diffyg. 

 

3 MATERION A GODWYD

3.1 Cyfeiriwyd at achos Claire Dyer, a symudodd o Abertawe i Brighton er mwyn cael y gwasanaethau priodol, gan amlygu’r gwendidau yn y gwasanaeth sydd ar gael i oedolion yn yr ardal. Mae CPAG wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd am y mater ac mae’n disgwyl iddo ymateb. 

 

3.2 Mynegwyd pryder am y cymorth sydd ar gael yn Sir y Fflint, yn enwedig i deuluoedd lle mae anghenion gwahanol gan unigolion gwahanol. Yn yr un modd, mae oedolion yn brwydro i gael diagnosis priodol yn y lle cyntaf.

 

3.3. Cafwyd sylwadau am weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt, mae'n ymddangos, ddealltwriaeth gynhwysfawr o awtistiaeth. Roedd rhai yn y gynulleidfa hefyd yn pryderu am drafferthion cael diagnosis i oedolion a'r diffyg gwasanaethau a oedd ar gael wedi hynny. Roedd anghydbwysedd hefyd rhwng  gwasanaethau ar gyfer awtistiaeth a gwasanaethau ar gyfer y rhai a oedd â phroblemau iechyd eraill â symptomau tebyg.

 

3.5 Codwyd y pwynt olaf gan rywun a fu gynt yn aelod o'r grŵp rhanddeiliaid yn Wrecsam. Roedd am wybod ar beth y gwariwyd yr arian a neilltuwyd ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth pan unodd grwpiau ASD Wrecsam a Sir y Fflint.

 

 

4. CAMAU GWEITHREDU

4.1 CPAG i ysgrifennu at Robin Moulster, rheolwr BASW Cymru i gynnig bod gweithwyr cymdeithasol yn cael hyfforddiant digonol ym maes awtistiaeth.

4.2 CPAG i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog  Iechyd i nodi pryderon am bwysigrwydd buddsoddiad tymor hir mewn awtistiaeth ac ariannu ASD yn Wrecsam a Sir y Fflint

 

 

 

5. UNRHYW FATER ARALL

Dyddiad a lleoliad cyfarfod nesaf CPAG: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 19 Tachwedd 2014 12.00-13.15